Mewn argyfwng y mae dinas yn llosgi – am fod yr hen drefn wedi methu ac mae’n rhaid i newid ddod. Mae pob gwerth, perthynas a chred yn cael ei siglo ac mae’r dyfodol yn anelwig.
Yn y chwe stori ar hugain yn A City Burning, mae plant ac oedolion yn llygadu eiliadau o drawsnewid posib yn fflamau trasiedi bersonol. Ar drothwy eu dyfodol, rhaid i bob un ddewis: sut i fyw yn y ‘nawr’ newydd hwn.
Wedi’u lleoli yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a’r Eidal, mae’r straeon cwmpasu cyfnod yr Ail Ryfel Byd ac oes Covid-19.
Archebwch here
Wrth aros am garcharorion digalon ddod adre o’r Rhyfel, mae Eidalwr yn gweld ffordd ysgytwol i ailadeiladu ei fyd; ar arfordir Antrim, mae Gwyddel yn cael ei wthio i’r dibyn gan gythreuliaid ei deulu niwrotig; yng Nghymoedd de Cymru, helpu’r henoed yn eu cartrefi yn ystod y pandemig yw ffrwnt newydd brwydr y gweithwyr, ym mhrofiad un o’u gofalwyr. Merch yn ei harddegau yn digalonni wrth wynebu dyfodol ym myd Covid; terfysgwr mewn cariad; gweinidog dialgar; actores yn ceisio goleuni yn ei rôl i oresgyn rhwystrau ei bywyd go iawn: dyma bobol gyffredin mewn argyfwng – pob un wedi’i bortreadu â dealltwriaeth ffyrnig o anghyfiawnder a chreulondeb eu bywydau.
Ond mae’r sgwennu’n delynegol hefyd, llawn hiwmor ar brydiau ac yn craffu ar iaith ac ieithoedd – Eidaleg, Ulster Scots, Cymraeg. Yn ogystal â chymeriadau yn eu gwledydd eu hunain, rydyn ni’n cwrdd â Gwyddelod yn yr Eidal, Eidalwyr yng Nghymru, Cymry yng Ngogledd Iwerddon.
Mae gweledigaeth sinematig o ffocws a lleoliad yn sail i bopeth sy’n digwydd: siop lyfrau diflas wedi troi’n gyrchfan rhamantus gan ysbrydion y meirw; dau offeiriad ifanc mewn cegin yn y Fatican yn gwrthdaro’n serchus; nemesis yn taro – o’r awyr – mewn coridor ysbyty.
Mae gan Angela Graham greddf am fanylion arwyddocaol a chlust am ddistawrwydd llwythog; fe fydd ei straeon yn gafael yn eu darllenwyr ac yn aros yn y cof ymhell ar ôl iddynt ddod i ddiweddglo.
Gwyddeles Gymraeg sy’n wreiddiol o Belffast yw Angela Graham. Cyn ysgrifennu A City Burning roedd hi’n gynhyrchydd a chyfarwyddwr teledu ac yn awdur sgriptïau ffilm yng Nghymru. Mae hi wedi cynhyrchu mwy na 100 o raglenni dogfen a ffeithiol i S4C, BBC, ITV a Channel 4. Bu’n Gynhyrchydd Datblygu ar ‘The Story of Wales’, gyfres hanes Cymru nodedig y BBC a ennillodd gwobrwyon BAFTA Cymru. Cynhyrchodd a chyd-ysgrifennodd y ffilm sinema Gymraeg / Wyddelig ‘Branwen’ (ymgeisydd i’r Oscars yn y categori Iaith Dramor ac enillydd gwobrau rhyngwladol) ac mae hi wedi ysgrifennu sgriptiau ffilm wedi’u lleoli yn yr Eidal a Rwmania.
Mae straeon Angela Graham wedi cael eu cyhoeddi’n eang mewn sawl gwlad a’u canmol yn frwd am eu meistrolaeth o dôn a llais. Mae hi’n rhugl ei Chymraegac yn fardd arobryn.
Beirniadaeth ar A City Burning:
‘Angela Graham is a brilliant new voice. This is literature that will last.’ Kate Hamer
“In this powerful collection, Angela Graham shows herself master of the angle of vision: her tales capture the mercurial moment when a person’s world is changed forever, in a road or room, against a landscape, seascape or starscape, at the graveside or (as in the towering story, ‘Life-Task’) at a forsaken railway station in the aftermath of war.” – Stevie Davies
“These stories show us what the genre does best: the ‘snapshot’ of a moment which reveals a life or a culture in a moment of transition or realisation, what James Joyce called an ‘epiphany’. … This vivid, humane and beautifully-controlled collection suggests Angela Graham is another name to watch.” – Prof Diana Wallace
“Good writing is compelling. Each of these twenty-six stories takes you out of your own skin and into the lived experience of another… The writing is sparse. Every word is telling… But there’s also lyricism, a feel for the rhythm of speech and an ability to capture natural beauty… These stories are not comfortable… but they are honest, searing, insightful and very, very good.” – Inez Lynn
‘The stories entice and intrigue…highly recommended’ – Graham Reid
‘Short, sharp and sometimes shocking, these wonderful stories truly pack a punch.’ Sue Leonard
‘an impressive kaleidoscope of landscape and language’ – Angeline King
‘A debut collection of tales remarkable for its verve, depth and range. Elegantly arranged, pellucidly told and persistently perceptive: twenty-six stories, one singular voice.’ – Jon Gower